Elinor Bennet performing in Chamg Mai, Thailand

Elinor Bennet performing in Chamg Mai, Thailand

NODYN BYWGRAFFIADOL

Adnabyddir Elinor Bennett fel un o brif gerddorion Cymru, a bu’n cynnal cyngherddau, datganiadau a dosbarthiadau meistr ledled y byd. Ystyrir hi yn  un o  delynorion ac  athrawon mwyaf dylanwadol gwledydd Prydain.

Er mai fel telynores broffesiynnol ym maes  cerddoriaeth clasurol y mae Elinor yn fwyaf adnabyddus, mae  hefyd law-yn-llaw a hyn, yn cyflwyno cerddoriaeth Cymru  (o gerddoriaeth telyn draddodiadol a chaneuon gwerin i gyfansoddiadau gan gyfansoddwyr cyfoes) yn ei chyngherddau, recordiadau a gwyliau cerdd.

Wedi’i thrwyddo yn nhraddodiadau cerddorol Cymru, daeth Elinor Bennett i’r brig yn gynnar iawn yng Nghymru trwy ennill gwobrau yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol. Graddiodd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond newidiodd gwrs ei gyrfa trwy ennill ysgoloriaeth i’r Academi Gerdd Frenhinol, yn Llundain, lle yr astudiodd gyda’r Dr. Osian Ellis. Bu’n chwarae gyda phrif gerddorfeydd Prydain, yn arbennig Cerddorfa Symffoni Llundain, y Philharmonia a Cherddorfa Siambr Lloegr, a gweithiodd gydag arweinyddion a chyfansoddwyr gorau’r byd, gan gynnwys Sir John  Barbirolli, Sir Adrian Boult, Sir Malcolm Sargeant, Sir Colin Davies, Erich Leinsdorf, Andre Previn a Benjamin Britten.

Mae wedi cynhyrchu bymtheg albwm o gerddoriaeth telyn, yn amrywio o gasgliad o gerddoriaeth glasurol o’r 20fed ganrif i gasgliadau o gerddoriaeth draddodiadol a chaneuon gwerin o Gymru ar y delyn deires. Ysgrifennodd llawer  o gyfansoddwyr gerddoriaeth yn arbennig i Elinor, yn cynnwys Alun Hoddinott, John Metcalf, Karl Jenkins, Malcolm Williamson, Hilary Tann, Gareth Glyn a Rhian Samuel. Ymhlith ei disgyblion nodedig, mae Catrin Finch a Sioned Williams, Prif  Delynores  Cerddorfa Symphony, BBC Llundain. Enillodd Ysgoloriaeth Churchill i astudio Therapi Cerdd yn Awstralia a bu’n hybu’r ddefnydd o’r therapi  i blant a phobl gydag anableddau dysgu.

Mae’n ymddangos yn gyson ar radio a theledu ac am gyfnod bu’n Athrawes Ymweliadol y Delyn yn yr Academi Gerdd a Choleg y Guildhall, Llundain, a bu’n artist arbennig a beirniad mewn llawer gwyl telyn yn cynnwys Moscow, Ffrainc, Yr Eidal, Yr Almaen, Hwngari, Seland Newydd a Japan. Hi oedd Cyfarwyddwriag Artistig Gwyl Delynau Tamnak Prathom ym Mangkok,Gwlad Thai yn 2008 a 2012.  

Cafodd Gymrodoriaethau er Anrhydedd  gan yr Academi Gerdd Frenhinol, Prifysgolion Bangor, Aberystwyth, a Chaerdydd, a  Choleg Cerdd a Drama Frenhinol Cymru.  Mae ganddi Wisg Wen yng Ngorsedd y Beirdd, hi oedd Menyw Geltaidd y flwyddyn yn yr Unol Daleithiau yn 2002, a chafodd Wobr Glyndwr yng Ngwyl Machynlleth. Derbyniodd Elinor Ddoethuriaeth mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Cymru, a hi yw Cyfarwyddwraig  Gwyl Delynau Rhyngwladol Cymru a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ym 2006, 2010 ac eto yn  2014.

Roedd yn allweddol i’r gwaith o sefydlu Telynau Bangor, Coleg Telyn Cymru a Chanolfan Gerdd William Mathias , a hi oedd  Cyfarwyddwr Artistig  cyntaf y Ganolfan.

Mae’n awyddus i ymroi ei hegni a’i phrofiad sylweddol i fwynhau perfformio’r  cyfoeth o gerddoriaeth traddodiadol, alawon telyn, a chaneuon gwerin  sydd gennym yng Nghymru a rhannu’r cariad at ein hetifeddiaeth gyda phobl o ddiwylliannau eraill.  

Yn 2012, bu’n gyfrifol am ffilmio cyfweliad estyngedig gyda’r Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney a fydd yn adnodd rhyfeddol i ymchwilwyr a chantorion gwerin y dyfodol.