EB  triple down _ Bob ok.jpg

ELINOR BENNETT

Adnabyddir Elinor fel un o brif gerddorion Cymru, a bu’n weithgar fel  perfformwraig ac athrawes am gyfnod hir. Bu’n teithio’r byd gan gynnal cyngherddau, datganiadau a dosbarthiadau meistr, ac ystyrir hi yn  un o athrawon telyn mwyaf dylanwadol gwledydd Prydain.

Daeth Elinor Bennett i’r amlwg yn gynnar iawn yng Nghymru trwy ennill gwobrau yn  Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol.  Graddiodd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond newidiodd gwrs ei gyrfa trwy ennill ysgoloriaeth arbennig i’r Academi Gerdd Frenhinol, yn Llundain, lle’r astudiodd gyda’r Dr. Osian Ellis.

Yn ystod blynyddoedd cynnar ei gyrfa, bu’n chwarae gyda phrif gerddorfeydd Prydain, yn arbennig Cerddorfa Symffoni Llundain, y Philharmonia a Cherddorfa Siambr Lloegr, a gweithiodd gydag arweinyddion a chyfansoddwyr gorau’r byd, gan gynnwys Sir John  Barbirolli, Sir Adrian Boult, Sir Malcolm Sargeant, Sir Colin Davies, Erich Leinsdorf, Andre Previn a Benjamin Britten .

Mae Elinor yn rhoi cyngherddau, datganiadau a Dosbarthiadau Meistr ym mhob cwr o’r byd, ac  ymddengys yn gyson ar radio a theledu. Cynhyrchodd lawer record a chryno ddisg, g yn cynnwys CD o gerddoriaeth definitve i’r delyn yn yr ugeinfed ganrif i gasgliadau o gerddoriaeth draddodiadol a chaneuon gwerin Cymraeg ar y Delyn Deires.

Enillodd Ysgoloriaeth Winston Churchill i deithio i Awstralia yn 1985 lle y gwnaeth astudiaeth i Therapi Cerdd, ac ar dod yn ol bu’n weithgar i hybu ei ddefnydd i helpu pobl aphlant ag aableddau dysgu.

Wedi’i thrwyddo yn nhraddodiadau cerddorol Cymru, bu Elinor yn ganolog i’r gwaith o sefydlu Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon, a hi oedd  Cyfarwyddwr Artistig  cyntaf y Ganolfan 0 2002 - 2008. Trefnodd a chyfarwyddodd Wyl Delynau Rhyngwladol Cymru yn 2006, a’r Ail Wyl yn 2010.

Ysgrifennodd llawer  o gyfansoddwyr gerddoriaeth yn arbennig i Elinor, yn cynnwys John Metcalf, Alun Hoddinott, Malcolm Williamson, Hilary Tann, Gareth Glyn, Hilary Tann, Rhian Samuel, Karl Jenkins and Paul Mealor. Ymhlith ei disgyblion nodedig, mae Catrin Finch, Sioned Williams, Prif Delynores Cerddorfa BBC Llundain, a llawer o delynorion amlwg eraill. Ym 1988 sefydlwyd Goleg Telyn Cymru gan  Elinor, Meinir Heulyn a Gillian Green, gan drefnu llawer o gyrsiau preswyl i delynorion ifanc.

Yn ddiweddar, bu Elinor yn Athrawes Ymweliadol yn yr Academi Gerdd a Choleg y Guildhall  yn Llundain, ac yn Ymgynghorydd i Ganolfan Delyn Tamnak Prathom yn Bangkok.

Derbynniodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan yr Academi yn 2006 a chafodd Gymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgolion Bangor, Aberystwyth, a Chaerdydd, a Choleg Cerdd a Drama Frenhinol Cymru.

Bu’n Westai arbennig ac yn Feirniad  yng Ngwyl y Delyn yn Fenis, Moscow, Szeged(Hwngari), Soka (Japan), Bangkok, (Gwlad Thai) Soka (Japan) Wellington (Seland Newydd),  Nantes (Llydaw), Schlitz (Yr Almaen), Academi’r Delyn yn Kentucky, UDA, a Bangkok. Gwahoddwyd hi i berfformio yng Nghyngres Delynau’r byd sawl gwaith yn ogystal ag yng Nghyngres Delynau’r Unol Daleithiau ac Ewrop. Hi yw Cyfarwyddwraig Artistig Gwyl Delynau Bangkok – gorchwyl a gyflawnodd  yn 2009, a gwahoddwyd hi eto ar gyfer 2012.

Mae ganddi Wisg Wen yng  Ngorsedd y Beirdd , ac yn 2002 hi oedd Menyw Geltaidd y flwyddyn yn yr Unol Daleithiau, a chafodd Wobr Glyndwr yng Ngwyl Machynlleth  yn 2003, ac OBE am wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru yn 2006. yn ogystal â Gwobr Jiwbili Aur gan Gymdeithas Gerddoriaeth Cymru. Yn Nhachwedd 2008 derbyniodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru.